| Cyhoeddodd
Ei Mawrhydi’r Frenhines ar 30ain Ebrill 2002 y byddai Gwobr
flynyddol newydd yn cael ei chreu i nodi achlysur ei Jiwbilî
Aur.
Mae’r Wobr yn cydnabod y gwaith allweddol
a wneir gan gannoedd ar filoedd o ‘arwyr addfwyn’ y
byd gwirfoddol a chymunedol ac yn pwysleisio pwysigrwydd parhau
i gydnabod eu gwaith. Mae’r Wobr yn cwmpasu’r Deyrnas
Unedig gyfan, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Rhoddir hyd at 200 o Wobrau bob blwyddyn am weithgareddau
gwirfoddol rhagorol a gynhelir yn y gymuned. Rhoddir y Gwobrau i
grwpiau yn hytrach nag unigolion.
|