arwyr addfwyn Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol gan grwpiau yn y gymuned The Queen's Golden Jubilee 2002 logo
English version return home
Yngl_n â’r Wobr
Sut i Enwebu
Enillwyr
Astudiaethau Achos
Newyddion
Cwestiynau cyffredin
small arrow
  small arrow Y broses enwebu
  small arrow Y broses ddewis
Cysylltiadau
Cysylltwch â Ni
Cabinet Office - Office for the Third Sector
Cwestiynau Cyffredin  

Meini Prawf y Wobr

1. Beth yw’r Wobr hon?
Mae’r Wobr newydd hon, sy’n debyg i Wobrau’r Frenhines ar gyfer Menter, yn cydnabod y rhan a chwaraeir gan gannoedd ar filoedd o grwpiau gwirfoddol yn y gymuned. Fe’i cyhoeddwyd yn 2002 i nodi achlysur Jiwbilî Aur y Frenhines.

2. Faint fydd y cynllun yn parhau?
Gwobr flynyddol fydd hon a fydd yn ffordd o gofio’n barhaol am y Jiwbilî Aur. Bydd y cynllun yn cael ei adolygu ar ôl tair blynedd i asesu pa mor effeithiol y mae wedi gweithio.

3. Am beth mae’r wobr yn cael ei rhoi?
Mae’r wobr yn cydnabod gwaith eithriadol gan grwpiau o ddau neu fwy o bobl yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw sy’n rhoi’n wirfoddol o’u hamser i wella ansawdd bywyd a rhoi cyfle i unigolion neu grwpiau eraill yn y gymuned.

4. Beth yw’r meini prawf?
Bydd grŵp llwyddiannus wedi dangos ei fod:

  • yn cwrdd ag angen penodol;
  • yn darparu gweithgareddau gwirfoddol o ansawdd da iawn sy’n canolbwyntio ar y gymuned;
  • wedi creu llawer iawn o ewyllys da a pharch ymysg y rhai y mae’n eu gwasanaethu a’r gymuned yn gyffredinol;
  • wedi datblygu’n lleol ac yn cael ei redeg gan bobl leol; ac,
  • â hanes o ymwneud â’r gymuned, fel rheol dros gyfnod o dair blynedd neu fwy, er lles cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol unigolion neu grwpiau lleol.

5. Pwy sy’n gymwys?
Gellir enwebu grŵp (dau neu fwy o bobl) ar gyfer y Wobr os yw’n:

  • darparu gwasanaeth o safon uchel er lles unigolion neu grwpiau yn y gymuned;
  • gweithredu ac yn darparu gwasanaeth yn y Deyrnas Unedig;
  • gweithredu ers o leiaf 3 blynedd, (er y gellir gwneud eithriadau ar gyfer prosiectau tymor byr);
  • cynnwys gwirfoddolwyr yn unig (gan gynnwys Ymddiriedolwyr) neu’n cynnwys rhywfaint o staff cyflogedig, ond mai lleiafrif ydynt.

6. A fydd grwpiau sy’n gweithredu dramor yn gymwys?
Na fyddant. Gwobr yw hon ar gyfer y rhai hynny sy’n gweithio yn y DU. Mae’n fwy priodol bod y rhai hynny sy’n gweithio dramor yn cael eu cydnabod o dan y system Anrhydeddau.

7. Beth am elusennau?
Mae llawer o sefydliadau bach a grwpiau wedi eu cofrestru fel elusennau, ac mae yna grwpiau o wirfoddolwyr sy’n gweithio o dan nawdd yr elusennau mwy. Mae’r rhain i gyd yn gymwys, ar yr amod nad ydynt yn ymwneud â chodi arian yn unig. Mewn geiriau eraill, rhaid i grwpiau ddarparu gwasanaeth i’r gymuned hefyd yn ogystal â’u gweithgareddau codi arian. Ymysg enghreifftiau o wasanaethau y mae cyngherddau, ffeiriau a chyfleusterau caffi mewn ysbytai.

8. Beth am gyfraniad unigolion?
Gellir cydnabod eu cyfraniad amhrisiadwy trwy’r system Anrhydeddau.

9. A ellwch chi roi enghreifftiau o’r math o grŵp fydd yn gymwys?
Mae dwsinau o bosibiliadau, ond rhai enghreifftiau yw grwpiau sy’n

  • gwella’r amgylchedd lleol;
  • cyfrannau at atal troseddu a diogelu’r gymuned;
  • rhedeg canolfannau cymunedol a neuaddau pentref, clybiau ieuenctid neu glybiau chwaraeon yn y gymuned;
  • darparu cyfleusterau ar gyfer plant (ee cynlluniau chwarae gwyliau neu glybiau ar ôl ysgol);
  • rhoi cymorth i’r rhai hynny sy’n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol;
  • cynnig cymorth neu gyfleusterau arbennig i grwpiau megis pobl oedrannus neu anabl;
  • rhoi cymorth i bobl sydd wedi dioddef trosedd;
  • gweithio gyda theuluoedd, yn enwedig y rhai hynny sy’n wynebu caledi;
  • mynd i’r afael ag anghenion penodol cymunedau du neu ethnig lleiafrifol; neu
  • rhedeg grwpiau hunan-gymorth, ee ar gyfer teuluoedd pobl sy’n dioddef o afiechydon prin.

10. Faint o grwpiau fydd yn ennill gwobrau bob blwyddyn?
Hyd at 200.

11. Pam 200?
Ar ôl ystyried y mater yn ofalus iawn, barnwyd mai hwn oedd y nifer briodol.

12. Beth fydd yr enillwyr yn ei dderbyn?
Tystysgrif wedi ei llofnodi gan y Frenhines a darn o risial i goffáu’r achlysur i’w arddangos yn eu prif ganolfan. Cyflwynir y Gwobrau ar ran y Frenhines gan yRhaglaw Lywodraethwr ar gyfer y sir y mae’r grŵp yn gweithredu ynddi.

13. Sut bydd y wobr a’r dystysgrif yn edrych?

Bydd y wobr a’r dystysgrif i’w gweld yma ar 2il Mehefin 2003

14. Am faint fydd y grwpiau’n cadw’r Wobr?
Bydd y Wobr yn gysylltiedig â gweithgarwch y flwyddyn arbennig honno(ee Gwobr Jiwbilî Aur y Frenhines 2003) gyda’r grŵp yn cael yr hawl i ddefnyddio’r teitl hwnnw ( er enghraifft ar ben llythyrau, os yw’n defnyddio pethau felly) gyhyd ag y bydd mewn bodoloaeth.

15. Pryd bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi?
Cyhoeddir y Gwobrau cyntaf ar 2il Mehefin 2003 (hanner canfed pen-blwydd Coroni’r Frenhines). Bydd ail rownd y Gwobrau’n cael ei lansio’r un pryd.